Jan Hus

Diwinydd a diwygiwr Cristnogol o Fohemia oedd Jan Hus (; oddeutu 1370 – 6 Gorffennaf 1415) a gychwynnodd fudiad Husiaeth ac a sbardunodd, trwy ei ferthyrdod, y Diwygiad Bohemaidd. Efe oedd un o'r prif arweinwyr rhag-Brotestanaidd.

Ganed ef yn Husinec, Teyrnas Bohemia, i deulu tlawd, ac astudiodd ym Mhrifysgol Prag. Yno cafodd ei ordeinio'n offeiriad, a fe'i penodwyd yn athro diwinyddol a deon yr adran athroniaeth. Dylanwadwyd arno gan waith John Wycliffe, a daeth i'r farn bod angen diwygiad mawr ar yr Eglwys Gatholig. Yn ei bregethau, dadleuai'n erbyn nifer o agweddau llygredig y glerigiaeth a'r Babaeth, a mynnai safbwyntiau ei hun ar eglwyseg, simoniaeth, a'r Ewcarist.

Ystyriodd yr Eglwys Gatholig ei ddysgeidigaethau yn heresi, ac felly fe'i hesgymunwyd gan y Pab Alecsander V. Fodd bynnag, ni chafodd y gorchymyn ei orfodi, a ni rhoddwyd taw ar lais Hus. Ennynodd ddicter Ioan XXIII, olynydd Alecsander V, trwy ladd ar yr arfer o werthu maddeuebau. Cafodd yr esgymuniad ei orfodi, a gyrrwyd Hus yn alltud. Galwyd Hus i ymddangos gerbron Cyngor Konstanz i amddiffyn ei ddysgeidiaeth. Yno cafodd ei arestio a'i daflu i'r ddalfa. O'r diwedd, fe'i rhoddwyd ar brawf ar gyhuddiad o heresi, ac wedi iddo wrthod dadgyffesu, fe'i condemniwyd i farwolaeth a'i losgwyd wrth y stanc yn Konstanz.

Wedi ei ddienyddiad, cynyddodd niferoedd a radicaliaeth yr Husiaid, a gwrthryfelasant yn erbyn y drefn Gatholig yn y Tiroedd Tsiec. Gwrthsefyllasant sawl croesgad yn eu herbyn yn Rhyfeloedd yr Husiaid, ac ym 1436 daethant i gyfaddawd â'r eglwys. Byddai poblogaethau Bohemia a Morafia yn fwyafrifol Husaidd hyd at fethiant Gwrthryfel Bohemia yn y 1620au, pan orfodwyd i'r bobl droi'n Gatholigion unwaith eto.

Mae ei ysgrifau sylweddol yn llunio rhan bwysig o lenyddiaeth Tsieceg yr Oesoedd Canol, ac ystyrir Hus fel un o ragflaenyddion pwysicaf y Diwygiad Protestannaidd. Dethlir gŵyl gyhoeddus ar 6 Gorffennaf, diwrnod ei ddienyddiad, yn y Weriniaeth Tsiec er parch iddo. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 3 canlyniadau o 3 ar gyfer chwilio 'Hus, Jan', amser ymholiad: 0.04e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Hus, Jan
    Cyhoeddwyd 1902
    Rhif Galw: M8° /2557-1
    Llyfr
  2. 2
    gan Hus, Jan
    Cyhoeddwyd 1905
    Rhif Galw: M8° /2557-6
    Llyfr
  3. 3
    gan Dachsel, Joachim
    Cyhoeddwyd 1964
    Awduron Eraill: “...Hus, Jan...”
    Rhif Galw: M8° /2281
    Llyfr