Hans Küng
Diwinydd ac offeiriad Catholig ac ysgolhaig o'r Swistir oedd Hans Küng (19 Mawrth 1928 – 6 Ebrill 2021).Ganed ef yn Sursee, yng nghanton Lucerne, y Swistir, yn fab i werthwr esgidiau a merch ffermwr. Roedd ganddo un brawd a phum chwaer iau. Yn ôl ei atgofion, teimlodd Hans alwedigaeth yr offeiriadaeth yn 11 oed. Astudiodd yn y Brifysgol Grigoraidd yn Rhufain, ac yno ysgrifennodd ei draethawd ymchwil ar ddyneiddiaeth anffyddiol Jean-Paul Sartre a diwinyddiaeth Brotestannaidd Karl Barth. Cafodd Küng ei ordeinio'n offeiriad ym 1954 ym Masilica Sant Pedr. Derbyniodd ei ddoethuriaeth mewn diwinyddiaeth o Athrofa Gatholig y Sorbonne ym 1957 cyn iddo ddychwelyd i Lucerne i weithio yn y plwyf am 18 mis.
Symudodd Küng i Orllewin yr Almaen ac addysgodd ym Mhrifysgol Münster o 1959 i 1960 ac yn swydd athro diwinyddiaeth sylfaenol ym Mhrifysgol Tübingen o 1960 i 1963. Aeth i Ail Gyngor y Fatican ym 1962 pan gafodd ei benodi'n peritus (ymgynghorwr diwinyddol) gan y Pab Ioan XXIII. Enillodd rywfaint o nod fel diwinydd rhyddfrydol ifanc, dyn golygus mewn siwt swyddfa ac yn gyrru sbortscar, ac aeth ar daith ddarlithio i sefydliadau diwinyddol yn Unol Daleithiau America, ac yno fe'i gwahoddwyd i'r Tŷ Gwyn i gwrdd â John F. Kennedy, arlywydd Catholig cyntaf y wlad. Ym 1963 fe'i penodwyd yn athro diwinyddiaeth ddogmataidd ac eciwmenaidd ac yn gyfarwyddwr cyntaf y Sefydliad Ymchwil Eciwmenaidd ym Mhrifysgol Tübingen. Yno, o 1965 i 1968, gweithiodd gyda Joseph Ratzinger—yn ddiweddarach Pab Bened XVI.
Bu Küng yn awdur ac ysgolhaig hynod o doreithiog, a chyhoeddodd fwy na hanner cant o lyfrau, gan gynnwys hunangofiannau astudiaethau o amryw bynciau megis bodolaeth Duw, y berthynas rhwng gwyddoniaeth a chrefydd, bywyd ar ôl marwolaeth, Islam, Thomas More, Sigmund Freud, a Mozart. O ganlyniad i'w gyfrol ''Unfehlbar? Eine Anfrage'' (1970), ar bwnc anffaeledigrwydd y Pab, amheuodd y Fatican i Küng wyro oddi ar ddysgeidiaeth yr Eglwys Gatholig. Ym 1979 derbyniodd ŵys gan y Cynulliad dros Athrawiaeth y Ffydd, ond gwrthododd deithio i'r Fatican i amddiffyn ei hunan gan alw'r fath ymchwiliad yn "dreial o'r Oesoedd Canol". O ganlyniad, collodd Küng ei drwydded eglwysig i addysgu diwinyddiaeth mewn prifysgolion Catholig. Cafodd y penderfyniad ei feirniadu gan nifer o unigolion a sefydliadau, gan gynnwys Eglwys Loegr a Chyngor Eglwysi'r Byd, a chynhaliwyd gwylnos amdano gan fil o fyfyrwyr yn Tübingen. Bu'n rhaid i Brifysgol Tübingen symud ei broffesoriaeth a'r Sefydliad Ymchwil Eciwmenaidd o'r gyfadran Gatholig a'u rhoi o dan awdurdod senedd y brifysgol. Gweithiodd Küng ym Mhrifysgol Tübingen hyd at 1996. Wedi iddo ymddeol, sefydlodd y Stiftung Weltehos (Sefydliad Moeseg y Byd) i hyrwyddo cydweithredu rhwng gwahanol grefyddau'r byd. Bu farw Hans Küng yn Tübingen yn 93 oed. Darparwyd gan Wikipedia
-
1
-
2
-
3Rhif Galw: D 304 /169Llyfr
-
4Rhif Galw: D 304 /168Llyfr
-
5Rhif Galw: D 304 /167Llyfr