Hugo Grotius

Cyfreithegwr, athronydd, diwinydd, diplomydd, apolegwr Cristnogol, dramodydd a bardd o Iseldirwr oedd Hugo Grotius (; 10 Ebrill 1583 – 28 Awst 1645). Roedd ei lyfr ''De Jure Belli ac Pacis'' (1625; "Deddf Heddwch a Rhyfel") yn hanfodol wrth ddatblygu "cyfreithiau gwledydd" ar sail deddf natur. Ynghŷd â'i ragflaenwyr Francisco de Vitoria ac Alberico Gentili, Grotius yw un o "dadau'r gyfraith ryngwladol".

Adnabyddir amlaf gan ffurf Ladin ei enw, ond fe'i elwir yn Iseldireg yn Huig de Groot () neu Hugo de Groot (). Disgleiriodd ei feddwl yn gyntaf yn ei arddegau. Cafodd ei garcharu am ei ran yn nadleuon Calfinaidd y Weriniaeth Iseldiraidd, a dihangodd mewn cist o lyfrau. Ysgrifennodd y mwyafrif o'i weithiau tra'n alltud yn Ffrainc.

Nid Grotius oedd y cyntaf i lunio athrawiaeth y gymdeithas ryngwladol, ond ef oedd y meddyliwr boreuaf i ddiffinio cysyniad y system wladwriaethau, dan lywodraeth cyd-ddiogelwch a diplomyddiaeth yn hytrach na grym a rhyfela. Ysgrifennai'r ysgolhaig cysylltiadau rhyngwladol Hedley Bull: "Diriaethai syniad y gymdeithas ryngwladol, yr hwn a ddwyn ger bron gan Grotius, gan Heddwch Westffalia, a gellir ystyried Grotius yn dad deallusol y cytundeb hwn, sef y cytundeb heddwch cyffredinol cyntaf yn yr oes fodern."

Yn ogystal â'i ddylanwad arloesol ar gyfraith ryngwladol, gwelir effaith ei ddiwinyddiaeth ar fudiadau diweddarach megis Methodistiaeth a Phentecostiaeth. Ystyrir hefyd yn "ddiwinydd economaidd" am iddo osod sylfaen i fasnach rydd. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 4 canlyniadau o 4 ar gyfer chwilio 'Grotius, Hugo', amser ymholiad: 0.04e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Grotius, Hugo
    Cyhoeddwyd 1650
    Rhif Galw: Thang / 0200
    Llyfr
  2. 2
  3. 3
    Rhif Galw: Thang / 0181
    Llyfr
  4. 4