Friedrich Engels

Athronydd a sosialydd o'r Almaen oedd Friedrich Engels (28 Tachwedd 18205 Awst 1895). Cyd-ysgrifennodd ''Y Maniffesto Comiwnyddol'' (1848) gyda Karl Marx.

Ganwyd yn Barmen, talaith y Rhein, ym Mhrwsia. Cychwynnodd ar yrfa fusnes yn Bremen, ac yn ei amser hamdden fe fagodd ddiddordeb yng ngweithiau'r "Almaenwyr Ifainc" (gan gynnwys Ludwig Börne, Karl Gutzkow, a Heinrich Heine) ac, yn ddiweddarach, yr "Hegeliaid Ifainc" (megis Bruno Bauer a Max Stirner). Trodd Engels yn anffyddiwr ac yn chwyldroadwr yn athroniaeth y dilechdid Hegelaidd, a chyhoeddodd erthyglau dan yr enw Friedrich Oswald. Gwasanaethodd am un flwyddyn mewn catrawd fagnelau ym Merlin, ac yno fe fynychodd ddarlithoedd yn y brifysgol.

Gadawodd y fyddin ym 1842. Bu'n cwrdd â Moses Hess, a chafodd Engels ei berswadio ganddo i droi'n gomiwnydd a symud i Loegr. Treuliodd ei ddyddiau ym Manceinion yn y swyddfa fusnes, a'i nosweithiau yn y llyfrgell yn ymchwilio i'r amodau economaidd a gwleidyddol yn Lloegr. Cyfranodd erthyglau i gylchgronau yn Lloegr ac ar y cyfandir, gan gynnwys y ''Deutsch-Französische Jahrbücher'' dan olygyddiaeth Karl Marx ym Mharis. Cafodd berthynas glos â'r Wyddeles Mary Burns, er na phriodasant. Yn sgil ei marwolaeth ym 1863, cafodd berthynas â'i chwaer Lizzy Burns, a phriodasant ym 1878 ychydig oriau cyn ei marwolaeth hi.

Dychwelodd Engels i Bremen a chyhoeddodd ei lyfr ''Die Lage der arbeitenden Klasse in England'' (1845). Cafodd gyfarfodydd â Marx ym Mharis, Brwsel, ac yn Lloegr. Roedd Engels yn un o sefydlwyr y Gynghrair Gomiwnyddol yn Llundain ym 1847.

Wedi marwolaeth Marx ym 1883, Engels a gyflawnodd y gwaith o olygu a chyhoeddi'r ail gyfrol a'r drydedd gyfrol o ''Das Kapital'' (1885, 1894). Bu farw Engels o ganser yn 74 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 4 canlyniadau o 4 ar gyfer chwilio 'Engels, Friedrich', amser ymholiad: 0.13e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Marx, Karl, Engels, Friedrich
    Cyhoeddwyd 1968
    Rhif Galw: SM08 /23
    Llyfr
  2. 2
    gan Marx, Karl, Engels, Friedrich
    Cyhoeddwyd 1945
    Rhif Galw: M8° /3044
    Llyfr
  3. 3
    gan Marx, Karl, Engels, Friedrich
    Cyhoeddwyd 1948
    Rhif Galw: M4° /280
    Llyfr
  4. 4
    gan Marx, Karl, Engels, Friedrich
    Cyhoeddwyd 1953
    Rhif Galw: M8° /5958
    Llyfr