Martin Luther
Offeiriad, diwinydd a diwygiwr eglwysig o'r Almaen oedd Martin Luther (10 Tachwedd 1483 – 18 Chwefror 1546). Ef fu'n gyfrifol am symbylu'r Diwygiad Protestanaidd.Ganwyd Martin Luther yn Eisleben yn Sacsoni. Treuliodd 1505 fel mynach yn Erfurt, a gweithiodd fel doctor diwinyddiaeth yn Wittenburg yn 1512.
Ar 31 Hydref 1517 hoeliodd Martin Luther ddarn o bapur ar ddrws eglwys gadeiriol Wittenberg a oedd yn rhestru 95 o ddadleuon yn erbyn yr Eglwys Babyddol. Gwrthwynebai'n gryf yr honiad y gellid prynu achubiaeth o gosb Duw gydag arian. Roedd Luther yn dysgu nad oedd iachawdwriaeth i'w gael drwy weithredoedd da ond i'w gael yn unig drwy ras Duw a ffydd yn Iesu Grist fel Iachawdwr. Roedd ei ddiwinyddiaeth yn herio awdurdod y Pab wrth ddysgu mai'r Beibl yw unig ffynhonnell datguddiad dwyfol.
Cyfieithodd Martin Luther y Beibl (y Testament Newydd ym 1521 a’r Hen Destament ym 1534) i Neuhochdeutsch (Uchel Almaeneg Gyfoes) ysgrifenedig, iaith a oedd bryd hynny yn dal i ddatblygu. Bu'n ysbrydoliaeth i ddatblygiad Prostaniaeth ar draws Ewrop, gan gynnwys yn Ffrainc lle adnabwyd hwy fel yr Hiwgenotiaid.
Dychwelodd i Eisleben a bu farw yno. Claddwyd ym mynwent Eglwys y Gastell yn Wittenburg.
-
221
-
222
-
223
-
224
-
225
-
226Rhif Galw: DEP / 0205-1 angebLlyfr
-
227Rhif Galw: DEP / 0259-11 angebLlyfr
-
228Rhif Galw: DEP / 0259-11Llyfr
-
229Rhif Galw: DEP / 0259-10 angebLlyfr
-
230Rhif Galw: DEP / 0259-10Llyfr
-
231Rhif Galw: DEP / 0259-9 angebLlyfr
-
232Rhif Galw: DEP / 0259-9Llyfr
-
233Rhif Galw: DEP / 0259-8 angebLlyfr
-
234Rhif Galw: DEP / 0259-8Llyfr
-
235Rhif Galw: DEP / 0259-7 angebLlyfr
-
236Rhif Galw: DEP / 0259-7Llyfr
-
237Rhif Galw: DEP / 0259-5 angebLlyfr
-
238Rhif Galw: DEP / 0259-5Llyfr
-
239Rhif Galw: DEP / 0259-4 angebLlyfr
-
240Rhif Galw: DEP / 0259-4Llyfr