Martin Luther
Offeiriad, diwinydd a diwygiwr eglwysig o'r Almaen oedd Martin Luther (10 Tachwedd 1483 – 18 Chwefror 1546). Ef fu'n gyfrifol am symbylu'r Diwygiad Protestanaidd.Ganwyd Martin Luther yn Eisleben yn Sacsoni. Treuliodd 1505 fel mynach yn Erfurt, a gweithiodd fel doctor diwinyddiaeth yn Wittenburg yn 1512.
Ar 31 Hydref 1517 hoeliodd Martin Luther ddarn o bapur ar ddrws eglwys gadeiriol Wittenberg a oedd yn rhestru 95 o ddadleuon yn erbyn yr Eglwys Babyddol. Gwrthwynebai'n gryf yr honiad y gellid prynu achubiaeth o gosb Duw gydag arian. Roedd Luther yn dysgu nad oedd iachawdwriaeth i'w gael drwy weithredoedd da ond i'w gael yn unig drwy ras Duw a ffydd yn Iesu Grist fel Iachawdwr. Roedd ei ddiwinyddiaeth yn herio awdurdod y Pab wrth ddysgu mai'r Beibl yw unig ffynhonnell datguddiad dwyfol.
Cyfieithodd Martin Luther y Beibl (y Testament Newydd ym 1521 a’r Hen Destament ym 1534) i Neuhochdeutsch (Uchel Almaeneg Gyfoes) ysgrifenedig, iaith a oedd bryd hynny yn dal i ddatblygu. Bu'n ysbrydoliaeth i ddatblygiad Prostaniaeth ar draws Ewrop, gan gynnwys yn Ffrainc lle adnabwyd hwy fel yr Hiwgenotiaid.
Dychwelodd i Eisleben a bu farw yno. Claddwyd ym mynwent Eglwys y Gastell yn Wittenburg.
-
141
-
142
-
143
-
144
-
145
-
146
-
147
-
148
-
149
-
150
-
151
-
152
-
153
-
154
-
155
-
156
-
157
-
158
-
159
-
160